Cymraeg
Cymraeg
| Mae grantiau ar gael bellach dan raglen Transversal er mwyn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol unigolion sy’n ymwneud ag addysg a dysgu seiliedig ar waith. |
Mae rhaglen gyffrous o Ymweliadau Astudio ar gyfer Arbenigwyr Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg yn galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau mewn gwlad Ewropeaidd arall am wythnos. Byddwch yn dysgu am arferion a systemau addysg ac yn cael y cyfle i ymweld ag ysgolion a cholegau, cyfarfod ymarferwyr a chlywed gan gyflogwyr, undebau llafur a chyrff sectorol. Yn ogystal, gallwch rwydweithio gyda’ch cymheiriaid Ewropeaidd gan feithrin cysylltiadau a phartneriaethau newydd at ddibenion cydweithio yn y dyfodol.
Fel arfer, bydd Ymweliadau Astudio yn canolbwyntio ar themâu arbennig ym maes addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, ac mae rhai o’r ymweliadau a gynigir ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Addysg amgylcheddol ac dosbarthiadau yn yr awyr agored yng Ngwlad Pwyl
- Ffyrdd gwell o addysgu iaith dramor yn Sbaen
- Rôl rhieni mewn addysg yn Nenmarc
- Darpariaeth i’r rhai sy’n gadael ysgol heb gymwysterau yn yr Almaen
- Addysg i oedolion ac addysg alwedigaethol yn yr Iseldiroedd
- Sut i ddenu pobl ifanc i hyfforddiant galwedigaethol yn Sweden
Mae cyfranogwyr a’u sefydliadau yn elwa wrth iddynt ddysgu am arferion ac ymagweddau newydd ym myd addysg – mae ymweliadau yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich arbenigedd gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddysgu am y gwahanol ffyrdd o weithio ar draws Ewrop.
Pryd fydd yr ymweliadau hyn yn digwydd?
Cynhelir yr holl ymweliadau rhwng mis Mawrth 2011 a mis Mehefin 2011. Mae’r Catalog Ymweliadau yn rhoi manylion llawn am bob ymweliad gan gynnwys y dyddiadau, y lleoliad a’r gweithgareddau y byddwch yn cymryd rhan ynddynt.
Sut allwch chi ymgeisio?Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 15 Hydref 2010. Mae modd gweld y Ffurflen Gais a’r Catalog Ymweliadau ar-lein trwy droi at www.transversal.org.uk.Sut allwch chi gael gwybod mwy?Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ECOTEC ar 0845 199 3939 neu anfonwch e-bost at studyvisits@ecotec.com. |
|
